sefydliad siartredig llyfrgellwyr a gweithwyr gwybodaeth cymru

hafan

amdanon ni 

newyddlen

bwletin digwyddiadau grwpiau

cyhoeddiadau

english

AMDANON NI

Datganiad o Genhadaeth Datganiad o Amcan

Strwythur

Cronfa Kathleen Cooks

 

Cyflwyniad 

Daeth Y Sefydliad Siartredig Llyfrgellwyr a Gweithwyr Gwybodaeth (CILIP) Cymru i fodolaeth ar 1 Ebrill 2002, ac mae'n gangen o Sefydliad Siartredig Llyfrgellwyr a Gwybodaeth (Prydain). Ffurfiwyd CILIP yn dilyn uno Cymdeithas y Llyfrgellwyr a'r Sefydliad Gwyddonwyr Gwybodaeth. Mae CILIP Cymru yn disodli Cymdeithas Llyfrgelloedd Cymru.


Datganiad o Genhadaeth

Mae CILIP Cymru yn mynnu bod darpariaeth o safon uchel ym maes llyfrgelloedd a gwybodaeth yn angen sylfaenol ar gyfer cymdeithas wybodus, ddemocrataidd a dwyieithog yng Nghymru, a thrwy ei aelodau mae CILIP yn anelu i sicrhau y bydd y ddarpariaeth hon ar gael i bawb.


Datganiad o Amcan (drafft)

Mae CILIP Cymru, er budd aelodau unigol, a thrwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg:-

  • yn hyrwyddo datblygiad proffesiynol aelodau unigol
  • yn darparu gwybodaeth a'i ddosbarthu i aelodau
  • yn cynrychioli barn aelodau.

Mae CILIP Cymru, er budd rhai ym maes llyfrgelloedd a gwybodaeth:-

  • yn dod â phawb sy'n rhan o'r maes, neu sydd â diddordeb ynddo, at ei gilydd
  • yn cydweithio ag asiantaethau eraill i hybu datblygu'r ddarpariaeth ym maes llyfrgelloedd a gwybodaeth, a hynny'n genedlaethol yng Nghymru, yn y Deyrnas Gyfunol ac yn rhyngwladol
  • yn cefnogi budd aelodau sy'n gweithio mewn meysydd penodol

Mae CILIP Cymru, er budd cymdeithas:-

  • yn eiriol dros rôl holl bwysig cynnig darpariaeth o safon uchel ym maes llyfrgelloedd a gwybodaeth
  • yn ceisio dylanwadu ar ddatblygiad polisïau ar ddarpariaeth llyfrgelloedd a gwybodaeth ar lefel lleol a chenedlaethol
  • yn cefnogi datblygu a hybu canllawiau ar ddarparu gwasanaethau
  • yn cynghori ar ddatblygu darpariaeth ym maes llyfrgelloedd a gwybodaeth
  • yn cyhoeddi gwybodaeth mewn ystod eang o fformatau, gan gynnwys e-gyhoeddiadau


Strwythur

Ar hyn o bryd mae gan CILIP Cymru tua 800 o aelodau. Mae pob aelod o CILIP sy'n byw yng Nghymru'n dod yn aelod o CILIP Cymru, a hynny'n otomatig.

Y prif gyrff sydd gan CILIP Cymru o ran gwneud penderfyniadau yw'r Cyfarfod Blynyddol a'r Pwyllgor Gwaith.

Cynhelir y Cyfarfod Blynyddol yn hanner cyntaf pob blwyddyn, yn ystod y Gynhadledd Flynyddol: 2007

Corff etholedig yw'r Pwyllgor Gwaith ac y mae hawl gan bob aelod i gynnig ei enw ar ei gyfer. Hefyd, dewisir cynrychiolwyr o'r grwpiau diddordeb arbennig i fod yn aelodau o'r Pwyllgor Gwaith. Mae'r Pwyllgor Gwaith yn cyfarfod dair neu bedair gwaith y flwyddyn, fel arfer yn Aberystwyth, ac yn delio ag ystod eang o faterion, yn cynnwys rhai'n ymwneud â materion proffesiynol a rhai ym maes llywodraeth leol a chenedlaethol, yn enwedig rhai sy'n berthnasol i'r Cynulliad Cenedlaethol.

Etholir Swyddogion CILIP Cymru gan y Pwyllgor Gwaith.

Mae 'na un is-bwyllgor, sef y Panel Gweithgareddau, sy'n cydweithio gyda'r Swyddog Datblygu i ddatblygu rhaglen o seminarau a chyrsiau hyfforddi.

Mae Ysgrifennydd Mygedol CILIP Cymru yn delio â materion ffurfiol a chyfansoddiadol. Mae'r Swyddog Datblygu - sy'n swyddog proffesiynol llawn-amser - yn delio â busnes o ddydd i ddydd, yn cynnwys drafftio dogfennau ar faterion proffesiynol, cysylltu â'r aelodau, a delio â chyrff allanol.
Manylion cyswllt y Swyddog Datblygu:

Swyddog Datblygu, CILIP Cymru, Adran Astudiaethau Gwybodaeth, Llanbadarn Fawr, Aberystwyth SY23 3AS

Ffôn: 01970 622 174 Ffacs: 01970 622 190 E-bost: cilip-cymru@aber.ac.uk


Cronfa Kathleen Cooks

Kathleen Cooks oedd llyfrgellydd Llandudno o 1947 hyd 1973. Gadawodd yn gymynrodd swm i'w ddefnyddio er budd llyfrgelloedd a llyfrgellwyr yng Nghymru, ac mae'r llog ar y gymynrodd ar gael bob blwyddyn i gefnogi prosiectau a datblygiadau.

Gall Cronfa Kathleen Cooks ddyfarnu arian i gynigion sy'n cyfarfod ag un o leiaf o'r meini prawf canlynol:

· Arwain at wasanaeth newydd neu ddiwygiedig i ddefnyddwyr gwasanaethau gwybodaeth a llyfrgell yng Nghymru
· Ychwanegu at wybodaeth o fewn llyfrgelloedd a gwasanaethau gwybodaeth yng Nghymru
· Gwella gwybodaeth broffesiynol ymhlith aelodau CILIP Cymru
· Cynorthwyo i gynhyrchu neu bwrcasu eitemau neu gasgliadau penodol o werth parhaol i Gymru

Gweinyddir y Gronfa gan bwyllgor rheoli sy'n cynnwys Swyddogion CILIP Cymru ynghyd â dau aelod etholedig sy'n cynrychioli llyfrgelloedd cyhoeddus a llyfrgelloedd academaidd / arbennig yng Nghymru.

Dyfernir arian yn ôl doethineb y pwyllgor rheoli, a bydd yr hyn a ddyfernir yn adlewyrchu ansawdd y cais a maint yr arian sydd ar gael yn y gronfa. Fel arfer dyfernir symiau o £500 - £1000, ond gellir dyfarnu mwy ar adegau.

Gall y canlynol gyflwyno ceisiadau: awdurdodau llyfrgell yng Nghymru, canghennau a grwpiau o fewn CILIP Cymru, ac aelodau unigol o CILIP Cymru. Gellir cyflwyno ceisiadau ar unrhyw adeg o'r flwyddyn.

Dylid cynnwys yn y cais ddisgrifiad byr o'r gwaith sydd i'w wneud, maint y cymorth ariannol a geisir, a'r defnydd a wneir o'r arian. Ni ddylai ceisiadau fod yn hwy na 1000 o eiriau a gellir eu cyflwyno ar bapur neu yn electronig i:

Y Swyddog Datblygu
CILIP Cymru
Adran Astudiaethau Gwybodaeth
Prifysgol Cymru Aberystwyth
Llanbadarn Fawr
Aberystwyth
SY23 3AS
Ffôn: 01970-622174
e-bost: cilip-cymru@aber.ac.uk

 

 


cyswlltwch â ni

© hawlfraint  cilip